Beautiful
-

Beautiful

The Carole King Musical

-
Archebwch nawr

Mae ‘Beautiful – The Carole King Musical’, sef sioe o'r West End a Broadway sydd wedi ennill gwobr Olivier, yn dod i Landudno!

Ymhell cyn ei bod yn Carole King, roedd y cerddor chwedlonol yma yn ferch gyffredin gyda thalent ryfeddol.

Mae Beautiful yn olrhain hanes ysbrydoledig King – ei dyfodiad i frig y diwydiant cerddoriaeth, ei phartneriaeth gerddorol gyda’i gŵr Gerry Goffin, ei pherthynas â’i chyd-gyfansoddwyr a ffrindiau gorau, Cynthia Weil a Barry Mann, a’i statws fel un o’r artistiaid mwyaf llwyddiannus yn hanes cerddoriaeth boblogaidd.

Ar hyd ei thaith, ysgrifennodd drac sain ar gyfer y genhedlaeth gyfan, gan gynnwys sawl clasur megis (You Make Me Feel Like) A Natural Woman, Take Good Care of My Baby, You’ve Got a Friend, So Far Away, It Might as Well Rain Until September, Up on the Roof, a The Locomotion.