Aida

Mae Opera Gwladol Rwsia yn cyflwyno

Aida

Archebwch nawr

Yn cynnwys cast clodfawr a Cherddorfa fyw o dros 30 o gerddorion.

Ar ôl eu hymweliad llwyddiannus â Carmen yn 2018, mae Opera Gwladol Rwsia yn dychwelyd i'ch cyfareddu gyda pherfformiad cyntaf Opera Aida. Bydd y cynhyrchiad newydd sbon yn siŵr o’ch swyno gyda setiau godidog a gwisgoedd newydd bendigedig.

Mae Verdi yn dod a'r Aifft hynafol ar y llwyfan gyda stori garu sy’n datblygu yng nghefndir y rhyfel. Mae tywysoges Ethiopia (Aida) yn disgyn mewn cariad gyda Chadfridog yr Aifft (Radames) ac mae ef wedi disgyn amdani hithau hefyd. Caiff Radames ei ddewis i arwain y rhyfel gydag Ethiopia gan y Brenin, gan adael Aida i ddewis rhwng ei chariad neu ei thad a'i gwlad.

Mae Aida yn stori garu ddirdynnol a fydd yn eich cadw ar flaenau eich seddi tan y diwedd.

Mae’r aria ‘Se quel Guerrier io fossi!’ sy'n cael ei ganu gan Radames yn yr act gyntaf yn un o'r ariâu mwyaf enwog yn y byd operatig. Mae’r alaw fwyaf pwerus yn dod yn ail ran yr Opera mewn ffurf Gorymdaith Gorfoleddus i nodi buddugoliaeth a gorfoledd.

Opera gynhyrfus yn llawn emosiwn a momentau o anobaith ac ansicrwydd. Mae Aida yn brofiad bythgofiadwy ac ysbrydoledig.

‘A boon to the opera in regional theatres.’

The Stage