9 to 5 The Musical
-

9 to 5 The Musical

-
Archebwch nawr

Yn syth o’r West End, mae sioe gerdd llawn cynnwrf Dolly Parton yn dod i Landudno!

Bydd rhaid i chi “Tumble outta’ bed and stumble to” Venue Cymru i weld sioe gerdd lwyddiannus Dolly Parton ym mis Awst!

Gydag adolygiadau 5* a seddi theatrau’r West End yn Llundain wedi’u gwerthu allan, mae 9 to 5 the Musical yn adrodd hanes tair cydweithwraig sy'n cael eu gwthio i’r pen gan eu bos rhywiaethol a hunangar. Drwy lunio cynllwyn i herwgipio a throi’r fantol yn erbyn eu goruchwyliwr ffiaidd, wnaiff y merched lwyddo i ddiwygio eu swyddfa – neu a fydd pethau’n mynd o chwith pan mae'r Prif Swyddog Gweithredol yn galw draw'n annisgwyl?

Gyda sgôr sydd wedi’i henwebu am Oscar, Grammy a Tony gan y Frenhines Canu Gwlad ei hun, Dolly Parton, a’r geiriau gan sgriptwraig wreiddiol y ffilm eiconig, Patricia Resnick, mae’r cynhyrchiad tu hwnt o ddigrif hwn yn ymwneud â chydweithio, cadw cefn y naill a'r llall a gwneud i bethau ddigwydd!

Cast i’w gyhoeddi.
Wedi’i seilio ar Ffilm 20th Century Fox. Cynhyrchwyd yn wreiddiol ar Broadway gan Robert Greenblatt, Ebrill 2009.

‘This is one 9 to 5 you’ll want to do again and again and again’

The Sun